Senior Internal Auditor | Uwch Archwilydd Mewnol

Transport For Wales

Senior Internal Auditor | Uwch Archwilydd Mewnol

£55000

Transport For Wales, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf - Rhondda Cynon Taf

  • Full time
  • Permanent
  • Remote working

Posted 2 weeks ago, 17 May | Get your application in now before you miss out!

Closing date: Closing date not specified

job Ref: c6d2f5555a2443c4aa39f6e3435f7321

Full Job Description

The Senior Internal Auditor is responsible for the strategic and operational delivery of internal audit and advisory assignments. This includes risk assessment, scoping, planning, fieldwork, and report writing to deliver the Annual Internal Audit plan as approved by the Audit and Risk Committee.

  • Responsible for the end-to-end audit process including assessing the landscape of risks and devising audit strategies. This includes applying professional judgement and knowledge to make recommendations for continuous improvement, providing assurance, holding exit meetings with senior management, and preparing final reports for the Audit and Risk Committee.

  • Provide informed, objective opinions by obtaining, analysing, and appraising evidentiary data to evaluate the adequacy and effectiveness of controls and efficiency of performance of the activities being reviewed.

  • Seek to obtain consensus to any recommendations by agreeing the actions and deadlines for completion with senior management and key staff to ensure the audit findings are actioned or escalated accordingly.

  • Responsible for the line management of interns, apprentices, and seconded staff as and when appropriate by providing, advice, guidance and opportunities for development to ensure TfW have a competent auditing provision with sufficient succession planning.

    Qualified Accountant (CCAB) or Qualified Internal Auditor (CIIA).

  • Demonstrable understanding of Public Sector Internal Audit Standards (PSIAS) and current CIIA standards.

  • Previous experience of Internal Audit in a complex public sector organisation.

  • Demonstrable experience of undertaking systems and risk-based audits.

  • Effective communication skills, both verbal and written (especially report writing) demonstrating ability to communicate key messages clearly and succinctly to senior management.

  • Able to provide challenge to the status quo and provide feedback where required.


  • Welsh Language Skills

    The ability to speak/write Welsh would make a great addition to your application, but it is not essential for this role.

    Transport for Wales supports and promotes the use of the Welsh Language by employees and will encourage them to develop, improve and maintain their Welsh Language skills. We fully support our people who want to improve their Welsh language skills, and personal development for Welsh Language skills are offered in a variety of ways such as online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses.

    At Transport for Wales we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone's different and has their own perspective so we're building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we're determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We're creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of., At Transport for Wales, we're on a mission to transform transport in Wales and make it fit for the future, whether that's rail, bus, walking or cycling. We want to inspire a nation to change the way it travels, so that we all travel more sustainably and help to combat the climate emergency we're all facing.

    We're an open and inclusive place to work, where everyone is welcome and our people are supported to reach their full potential. We want to create an environment where our people can grow and succeed. This is key to enabling us to deliver on the promises we've made to the people of Wales to build a sustainable transport network that meets their needs.

    Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae'n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell ac i fod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb ei safbwynt ei hun, felly rydyn ni'n creu tîm amrywiol sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu. Drwy wneud hyn, rydyn ni'n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni'n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

    Pwy ydyn ni

    Ein cenhadaeth yn TrC yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a'i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd mae'n teithio, fel bod pawb ohonom yn teithio'n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd sy'n wynebu pawb.

    Rydyn ni'n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy'n galluogi ein pobl i ddatblygu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i'n galluogi i gyflawni'r addewidion rydyn ni wedi'u gwneud i bobl Cymru i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth cynaliadwy sy'n diwallu eu hanghenion nhw.

    Cyfrifoldebau'r swydd

    Yr Uwch Archwilydd Mewnol sy'n gyfrifol am gyflawni archwiliadau mewnol ac aseiniadau cynghori yn strategol ac yn weithredol. Mae hyn yn cynnwys asesu risg, cwmpasu, cynllunio, gwaith maes ac ysgrifennu adroddiadau i gyflawni'r cynllun Archwilio Mewnol Blynyddol a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Archwilio a Risg.
  • Bod yn gyfrifol am y broses archwilio o'r dechrau i'r diwedd, gan gynnwys asesu tirwedd risgiau a llunio strategaethau archwilio. Mae hyn yn cynnwys defnyddio barn a gwybodaeth broffesiynol i wneud argymhellion ar gyfer gwelliant parhaus, rhoi sicrwydd, cynnal cyfarfodydd ymadael gydag uwch reolwyr, a pharatoi adroddiadau terfynol ar gyfer y Pwyllgor Archwilio a Risg.

  • Darparu barn wybodus, wrthrychol drwy gael, dadansoddi ac arfarnu data tystiolaethol i werthuso a yw rheolaethau'n ddigonol ac yn effeithiol a pha mor effeithiol yw perfformiad y gweithgareddau sy'n cael eu hadolygu.

  • Ceisio sicrhau consensws ar gyfer unrhyw argymhellion drwy gytuno ar y camau gweithredu a'r dyddiadau terfyn gydag uwch reolwyr a staff allweddol i sicrhau bod canfyddiadau'r archwiliad yn cael eu gweithredu neu eu huwchgyfeirio'n briodol.

  • Bod yn rheolwr llinell i interniaid, prentisiaid a staff ar secondiadau pan fo'n briodol drwy ddarparu cyngor, arweiniad a chyfleoedd ar gyfer datblygu i sicrhau bod gan TrC ddarpariaeth archwilio gymwys gyda digon o gynllunio ar gyfer olyniaeth.


  • Am bwy rydyn ni'n chwilio
  • Cyfrifydd Cymwysedig (CCAB) neu Archwilydd Mewnol Cymwysedig (CIIA).

  • Dealltwriaeth amlwg o Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) a safonau cyfredol yr Archwilydd Mewnol Cymwysiedig.

  • Profiad blaenorol o Archwilio Mewnol mewn sefydliad sector cyhoeddus cymhleth.

  • Profiad amlwg o gynnal archwiliadau systemau ac archwiliadau sy'n seiliedig ar risg.

  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig (yn enwedig ysgrifennu adroddiadau) gan ddangos y gallu i gyfleu negeseuon allweddol yn glir ac yn gryno i uwch reolwyr.

  • Gallu herio'r sefyllfa bresennol a rhoi adborth lle bo angen.


  • Sgiliau Cymraeg

    Byddai'r gallu i siarad/ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw'n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

    Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg gan weithwyr, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chynnal eu sgiliau Cymraeg. Rydyn ni'n rhoi cefnogaeth lawn i'n pobl sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd fel dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth ac arian at fynychu cyrsiau cymunedol lleol.

    Y camau nesaf

    A yw'r swydd hon yn swnio fel cyfle rhy dda i'w golli? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

    Mae TrC yn arweinydd ym maes anabledd. Rydyn ni'n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o'r swydd os byddwch chi'n llwyddiannus.

    Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni'n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

    Cofiwch ein bod yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar os byddwn wedi derbyn digon o geisiadau.

    Job Types: Full-time, Permanent

    Pay: £50,400.00-£55,000.00 per year

    Benefits:
  • Company pension

  • Cycle to work scheme

  • Employee discount

  • Free or subsidised travel

  • Health & wellbeing programme

  • Life insurance

  • Relocation assistance

  • Sick pay

  • Store discount

  • Work from home